Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales


Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

 

Cyllido Ysgolion yng Nghymru | School Funding in Wales

 

SF 03

 

Ymateb gan: Cymdeithas  Penaethiaid Uwchradd Sir Benfro

Response from: Pembrokeshire Association of Secondary Headteacher

 

 

Cyflwynir y canlynol ar ran Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd Sir Benfro mewn ymateb i alwad y pwyllgor am dystiolaeth mewn perthynas â:

·         digonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru; a'r

·         ffordd y mae cyllidebau ysgolion yn cael eu pennu a'u dyrannu.

Yn gyntaf, hoffwn fynegi ein diolchgarwch a'n gwerthfawrogiad i'r pwyllgor ac i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru am ymgymryd â'r ymgynghoriad hwn a rhoi cyfle i ni gyfrannu iddo.

Fel y nodir yn y canllawiau, mae ein cyflwyniad yn ymateb i'r meysydd ffocws. Er eglurder, rydym wedi cynnwys yr holl feysydd ffocws ar y dudalen ymgynghori ond, lle bo hynny'n briodol, rydym wedi amlygu lle nad oes gennym ddigon o wybodaeth i wneud sylw gwybodus neu ddefnyddiol ar agwedd benodol.

 

1.        digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cyllid ysgolion, yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill a'r adnoddau sydd ar gael

Ymateb

Ni allwn ond ymateb mewn perthynas â'n profiad uniongyrchol ni, a hynny fel gweithwyr proffesiynol sydd ar hyn o bryd yn darparu addysg mewn ysgolion, a digonolrwydd yr adnoddau a ddarperir mewn perthynas â lefel y ddarpariaeth a ddisgwylir gennym.

Yn y flwyddyn sydd i ddod, sef 2019-20, mae pob ysgol yn yr awdurdod lleol yn rhagweld diffyg yn ei chyllideb. Gan na chaniateir diffyg mewn cyllidebau, mae'n rhaid i'n holl ysgolion gymryd camau er mwyn mantoli cyllidebau. Ar y cyfan, bydd hyn yn golygu lleihau nifer y staff addysgu, lleihau ehangder y cwricwlwm a gynigir, yn rhannol yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5, a'r angen i gynyddu nifer y disgyblion sydd yn y dosbarthiadau er mwyn galluogi i lai o athrawon ddarparu'r cwricwlwm. Bydd yna ostyngiad yn yr amser a ddynodir i arweinyddiaeth a rheoli, a bydd hyn yn cynyddu llwyth gwaith yr aelodau hynny o staff ac yn lleihau eu gallu i ganolbwyntio ar wella perfformiad ysgolion. Mae lleihau nifer y staff cymorth yn golygu bod yna lai o gymorth, neu ddim o gwbl, ar gyfer y disgyblion sy'n llai abl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, disgyblion sydd ymhlith y dysgwyr mwyaf agored i niwed, ac y mae arnynt angen y mwyaf o gymorth. Mae gwaith cynnal a chadw ar offer cyfalaf, a buddsoddi ynddynt, yn cael ei wneud ar sail methiant, neu risg Iechyd a Diogelwch uniongyrchol. At hynny, mae lefelau lwfans y pen, sef y cyllid a ddirprwyir yn uniongyrchol i adran mewn ysgol i ddarparu offer, defnyddiau, deunydd ysgrifennu a gwerslyfrau ar gyfer y disgyblion, wedi'i gyfyngu cymaint nes bod profiad dysgu'r disgyblion wedi'i gyfyngu'n sylweddol.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae mwyafrif ein hysgolion uwchradd wedi profi cyllidebau llinell wastad a chostau cynyddol. Erbyn hyn, mae'r ysgolion wedi disbyddu unrhyw warged a oedd ganddynt, ac ni allant bellach gynnwys unrhyw gyllid wrth gefn. Nid yw hyn yn arfer da wrth ddarparu unrhyw wasanaeth critigol.

Er ein bod yn deall ac yn derbyn bod yna “gyd-destun o gyllidebu gwasanaethau

cyhoeddus eraill ac adnoddau sydd ar gael”, yn ôl ein tystiolaeth nid oes cyllid digonol yn cael ei ddarparu i'n galluogi i barhau i gyflenwi mwy na'r gwasanaeth statudol sy'n ofynnol gennym, ac rydym yn pryderu na fydd hyn, hyd yn oed, yn gynaliadwy oni bai fod yr hyn a ddisgwylir gennym yn cael ei leihau, yn hytrach na'i ehangu o hyd.

 

2.        y graddau y mae lefel y ddarpariaeth ar gyfer cyllid ysgolion yn ategu neu’n rhwystro gwaith Llywodraeth Cymru o gyflawni amcanion ei pholisïau;

Ymateb

Dyma a ddywed Llywodraeth Cymru: “Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a sicrhau system addysg y gellir ymfalchïo ac ymddiried ynddi yn genedlaethol”.

Bydd y gwaith o weithredu'r Cwricwlwm Newydd ar gyfer Cymru, ynghyd â'i bedwar diben (Dysgwyr uchelgeisiol a galluog; Unigolion iach a hyderus; Cyfranwyr mentrus a chreadigol; Dinasyddion moesegol a hyddysg), mewn perygl sylweddol oni bai fod y cyllid yn gwella. Mae yna gyllid a chymorth ar gael ar gyfer ysgolion a grwpiau arloesi, ac felly gellid dadlau bod cyllideb ‘gyffredinol’ yr ysgolion yn darparu ar gyfer hyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i bob ysgol arall gynllunio a pharatoi ar gyfer y cwricwlwm newydd gan ddefnyddio'r adnoddau a ddarperir ac a fwriedir i gyflawni dim mwy na'r ddarpariaeth addysgol gyfredol, nid darpariaeth ar gyfer y dyfodol.

Ym mhob un o'n hysgolion, mae'r gweithgareddau anstatudol a ddarperir yn lleihau ac mewn perygl o ddod i ben. Mae hyn yn golygu nad yw poblogaeth gyfredol yr ysgolion o bobl ifanc yn cael y profiad cyfoethog a ddylai fod ar gael iddynt. Disgwylir yn fwyfwy i ysgolion hefyd ddarparu cymorth emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc, wrth i’r ddarpariaeth a ddarperid yn flaenorol gan wasanaethau eraill gael ei leihau neu ei

ddiddymu’n llwyr. Mae’n ymddangos bod disgwyl i ni ddarparu ystod gyfan o wasanaethau nad ydym wedi’n cymhwyso nac yn cael ein hariannu i’w darparu.

Mae Llywodraeth Cymru, yn gywir iawn, wedi blaenoriaethu'r broses o wella deilliannau dysgwyr. Caiff hyn ei danseilio wrth i ysgolion gael eu gorfodi i leihau niferoedd yr athrawon a'r arweinwyr ysgolion ar bob lefel, gan arwain at lai o amser a gallu i wella safonau. Mae hyn hefyd yn tanseilio dymuniad penodol yr Ysgrifennydd Addysg i leihau llwyth gwaith athrawon; er bod tasgau diangen yn cael eu lleihau, neu fod cynlluniau ar y gweill i’w lleihau, mae'r hyn sy'n weddill yn cael ei wneud gan lai o bobl. Ni waeth beth fo'r cyflog, nid yw amodau gwaith o'r fath yn debygol o ddenu recriwtiaid newydd i'r proffesiwn. Mae hyn hefyd yn flaenoriaeth bwysig ar gyfer y Llywodraeth, ac rydym yn bendant yn ei chael yn hynod o anodd recriwtio ymgeiswyr o safon uchel pan fydd swyddi'n cael eu hysbysebu yn Sir Benfro.

Erbyn hyn, mae'r cyfrifoldeb am Gyflog ac Amodau Athrawon yng Nghymru wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Comisiynodd Llywodraeth Cymru banel annibynnol i adolygu'r cyflog ac amodau, ac i wneud argymhellion a fyddai'n “cefnogi Cenhadaeth

ein Cenedl ar gyfer Addysg yng Nghymru”. Mae'r argymhellion sydd yn yr adroddiad,

‘Addysgu: Proffesiwn gwerthfawr’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn uchelgeisiol, a bydd yn ofynnol dyrannu adnoddau sylweddol i'w gweithredu.

3.        y berthynas, y cydbwysedd a'r tryloywder rhwng ffynonellau amrywiol cyllid ysgolion, gan gynnwys cyllidebau craidd a chyllid wedi'i neilltuo;

4.        fformiwla gyllido llywodraethau lleol, a'r pwysoliad a roddir yn benodol yn Setliad y Llywodraeth Leol i addysg a chyllidebau ysgolion.

5.        gwaith Llywodraeth Cymru o oruchwylio'r modd y mae Awdurdodau Lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, er enghraifft, y pwysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran y disgyblion, amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r ddarpariaeth cyn-oedran orfodol;

 

Ymateb (3, 4 a 5)

Mae'r trefniadau cyfredol trwy Adroddiad Adran 52 yn darparu rhywfaint o dryloywder. Fodd bynnag, gan fod lefel y cyllid, ynghyd â'r modd y caiff cyllid ei ddirprwyo, yn amrywio o Lywodraeth Leol i Lywodraeth Leol, mae bron yn amhosibl gwneud

cymhariaeth ‘tebyg i debyg’ deg. Er enghraifft, efallai y bydd un Awdurdod Lleol yn dirprwyo canran uwch o gyllideb yr ysgol yn uniongyrchol i'r ysgolion yn ei ardal nag awdurdod mewn ardal arall, ond bod yr awdurdod cyntaf hwnnw, ond nid yr ail, wedyn yn ei gwneud yn ‘ofynnol’ bod ysgolion yn ‘prynu’ gwasanaethau yn ôl ganddo. Felly, gall y system gyllido gyfredol, trwy'r Awdurdod Lleol, greu amgylchedd ‘chwarae gêm’, sy'n ymddangos fel be bai'n dirprwyo canran benodol o'r gyllideb i ysgol, ond, mewn gwirionedd, nid yw'n gwneud hynny.

 

Yr agwedd arall ar gyllid ysgolion a all arwain at lai o dryloywder yw'r cyfraniad a wneir i addysg trwy'r dreth gyngor leol. Mae'n amlwg y bydd gan bob awdurdod lleol ei flaenoriaethau penodol ei hun, ond bydd ganddo hefyd wahaniaethau cyd-destunol sylweddol, er enghraifft natur wledig a allai olygu gorfod gwario rhagor ar gludiant. Mae gwahaniaethau o'r fath yn golygu bod cymariaethau yn llai dilys, yn fwy cymhleth ac felly yn llai tryloyw.

 

Yn anffodus, po fwyaf y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cael trosolwg o'r modd y mae awdurdodau lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, gan gynnwys, er enghraifft, y pwysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran y disgyblion, amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a darpariaeth cyn- oedran orfodol, lleiaf ymreolus ac ymatebol y bydd yr Awdurdodau Lleol wrth fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol.

 

Rhaid i arian cyhoeddus, wrth gwrs, gael ei wario ar yr hyn y cafodd ei ddarparu ar ei gyfer, ond rhaid i awdurdodau lleol allu ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol. Felly, efallai y byddai’n well petai Llywodraeth Cymru yn mesur deilliannau (canlyniadau) yn hytrach na sicrhau ei bod yn goruchwylio’r modd y mae awdurdodau

lleol yn ‘pennu’ cyllidebau ysgolion unigol. Yn ein barn ni, yr hyn sy’n bwysig yw gwneud defnydd effeithiol o adnoddau, yn hytrach na cheisio ‘rheoleiddio’ mewnbynnau (adnoddau) penodol.

 

6.        cynnydd a datblygiad ers adolygiadau blaenorol Pwyllgor y Cynulliad (er enghraifft adolygiadau'r Pwyllgor Menter a Dysgu yn y Trydydd Cynulliad);

Ymateb

Ni allwn gyfrannu mewn modd ystyrlon i'r agwedd hon ar waith y Pwyllgor

 

 

7.        argaeledd cymariaethau rhwng cyllid addysg a chyllidebau ysgolion yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig, a'r defnyddohonynt

Ymateb

Mae'r gwahaniaeth parhaus rhwng y ffordd y caiff ysgolion eu cyllido, diben y cyllid hwnnw, a'r modd y mae systemau ysgolion yn cael eu strwythuro yng Nghymru, o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn golygu bod cymhariaeth ddefnyddiol yn ddi-fudd o leiaf, ac yn ddiamgyffred ar y gwaethaf. Mae hyn yn wir oherwydd goruchafiaeth newydd system yr academïau yn Lloegr, ynghyd â'r modelau gwahanol o academïau yn y system honno, lle nad yw'r Awdurdodau Lleol bellach yn gweithredu mewn ffordd gymharol ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Efallai fod y strwythur yn yr Alban ac Iwerddon yn debycach i Gymru, ond mae'r blaenoriaethau gwahanol ar gyfer cyllido'r gwasanaethau cyhoeddus, a'r modd y caiff y rhain eu gweinyddu, hefyd yn golygu nad yw cymharu'n uniongyrchol yn ddefnyddiol.

Felly, yr unig gymharydd o werth, yn ôl pob tebyg, yw'r ‘gwariant cenedlaethol fesul plentyn oedran ysgol ar ddarparu addysg’, a'r graddau y cafodd y cyllid hwnnw ei ddefnyddio mewn modd effeithiol i gyflawni amcanion addysg cenedlaethol y wlad honno. Gallai’r amcanion hyn fod yn gymaryddion ar gyfer perfformiad cenhedloedd eraill mewn perthynas ag CMC, asesiadau PISA, mynegeion iechyd a lles, ac ati, neu'n gyfuniad o nifer o fesurau, ond Llywodraeth Cymru a fyddai'n gyfrifol am eu pennu, a hynny ar sail y blaenoriaethau cenedlaethol ar unrhyw adeg benodol. O ran addysg, mae'n ymddangos bod y rhain eisoes wedi cael eu diffinio'n dda ar gyfer Llywodraeth gyfredol Cymru, a hynny trwy bedwar diben y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru.